Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Mawrth 2022
Amser:
10.00 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12640
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Jack Sargeant AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Sharon Bounds, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Charlotte Barbour (Cynghorwr Arbenigol) |
Rhag–gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.45-10.00)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd Jack Sargeant AS yn bresennol ar ei rhan fel dirprwy.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol - 15 Chwefror 2022
2.2 PTN 2 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2022-23 - 15 Chwefror 2022
2.3 PTN 3 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc – 18 Chwefror 2022
3 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r eitemau a ganlyn i’r Pwyllgor:
· Diweddariad ar y gorwariant ar wasanaethau gofal iechyd sydd wedi ei ddileu yn Lloegr, ac unrhyw symiau canlyniadol Barnett a gafodd Llywodraeth Cymru o ganlyniad.
· Y wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniad cyllid ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y sector gwirfoddol, yn enwedig hosbisau a gofalwyr di-dâl.
· Y wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniad cyllid ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn enwedig amcanion penodol y cyllid hwn.
· Y wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniad cyllid ar gyfer uwchraddio adeiladau ysgolion mewn perthynas â darparu prydau ysgol am ddim.
· Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwerthusiad ffurfiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau cymorth busnes a gyflwynwyd yn ystod pandemig COVID-19.
· Y wybodaeth ddiweddaraf am waith modelu sy'n cael ei wneud mewn perthynas â bil cyflogau'r sector cyhoeddus yn y dyfodol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfod ar 11 Mawrth 2022.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
6 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)? Trafod y materion allweddol
6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a chytunodd i ailedrych arnynt yn ei gyfarfod ar 11 Mawrth.
7 Trefniadau ariannu ar ôl yr UE: Trafod y papur cwmpasu
7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd i gynnal ymchwiliad i drefniadau ariannu ar ôl yr UE.